Francois Hollande, Arlywydd Ffrainc
Mae pedwar o ddynion a oedd wedi taclo dyn arfog ar drên oedd yn teithio rhwng Amsterdam a Pharis wedi derbyn anrhydedd uchaf Ffrainc.

Derbyniodd y pedwar y Legion d’Honneur gan Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande mewn seremoni heddiw.

Yn eu plith mae Chris Norman, 62, dyn busnes o Brydain a wnaeth helpu tri Americanwr i ddiarfogi Ayoub El-Khazzani, 26, ar y trên.

Gwers mewn dewrder’

Dywedodd, Francois Hollande bod Chris Norman, y myfyriwr Anthony Sadler ac aelodau o Luoedd Arfog yr Unol Daleithiau, Spencer Stone ac Alek Skarlatos wedi rhoi “gwers mewn dewrder” wrth ddangos yr ewyllys i wrthsefyll yn erbyn y dyn arfog.

Meddai Francois Hollande: “Roedd dau ohonoch yn filwyr, ond ar ddydd Gwener teithwyr oeddech chi, ac rydych wedi ymddwyn fel milwyr, ond hefyd fel dynion cyfrifol.”

Ychwanegodd Francois Hollande ei fod yn edmygu eu dewrder a’u bod yn “esiampl i bawb ac yn ffynhonnell ysbrydoliaeth.”

Mewn cynhadledd i’r wasg, roedd Chris Norman wedi dweud ei fod yn credu ei fod am gael ei ladd ac felly penderfynodd helpu’r Americanwyr

Dywedodd bod yn well ganddo farw wrth geisio taclo Ayoub El-Khazzani na chael ei saethu wrth eistedd.

Credir  bod gan Ayoub El-Khazzani o Foroco gysylltiadau a grwpiau brawychol Islamaidd, a’i fod wedi bwriadu teithio i Syria.

Roedd heddlu yn Ffrainc a Gwlad Belg yn monitro ei symudiadau ac mae’n debyg ei fod wedi cael ei holi gan wasanaethau cudd Ffrainc tua 18 mis yn ôl.