Ieng Thirith
Bu farw Ieng Thirith, un o arweinwyr y Khmer Rouge a laddodd bron i ddwy filiwn o bobol Cambodia yn y 1970au.
Roedd hi’n 83 mlwydd oed, yn diodde’ o dementia ers rhai blynyddoedd, ac yn chwaer-yng-nghyfraith i gyn-arweinydd y Khmer Rouge, Pol Pot.
Fel ysgolhaig Shakespeare a oedd wedi’i haddysgu yn y Sorbonne yn Ffrainc, fe fu’n Weinidog Materion Cymdeithasol ac yn briod â Ieng Sary, cyn- Weinidog Tramor y Khmer Rouge a fu farw yn 2013 yn 87 mlwydd oed.
Roedd Ieng Thirith wedi bod ar brawf gan y Cenhedloedd Unedig mewn cysylltiad â throsddau a gafodd eu cyflawni dan y drefn radical yn Cambodia. Ond, fe gafodd hi ei rhyddhau ym mis Medi 2012, cyn i’r achos benderfynu nad oedd hi yn ei iawn bwyll i sefyll ei phrawf.