Gwefan newyddion leol yn dweud y stori
Mae’n ymddangos bod dyn wedi cael ei saethu’n farw gan ei fab dwy oed yn yr Unol Daleithiau.
Mae’r heddlu yn Alabama wedi galw’r digwyddiad yn ddamwain ofnadwy wedi iddyn nhw ddiystyru hunanladdiad ac esboniadau eraill tros farwolaeth Divine Vaniah Chambliss, 31 oed.
Daethpwyd o hyd i gorff Divine Vaniah Chambliss wedi cael ei saethu unwaith yn ei ben mewn fflat brynhawn dydd Mawrth. Doedd neb arall yn y fflat ar wahân i’r plentyn.
Yn ôl yr heddlu, doedd dim arwydd fod neb arall wedi bod i mewn yno.
Ychwanegodd yr heddlu nad yw’n anodd i blentyn danio gwn o’r fath a bod ymchwilwyr yn credu mai dyna beth ddigwyddodd.