Milwyr PKK yng Nghwrdistan
Mae gwrthryfelwyr Cwrdaidd wedi ffrwydro bom ar ffordd yn ne-ddwyrain Twrci, gan ladd beth bynnag wyth o filwyr.

Mae cyfryngau’r wlad yn cyhoeddi fod y ffrwydriad wedi bod ar briffordd yn nhalaith Siirt, lle mae nifer fawr o Gwriaid yn byw, a hynny wrth i gerbyd milwrol basio.

Fe ddaw’r ymosodiad yng nghanol ton newydd o drais rhwng Plaid y Gweithwyr yng Nghwrdistan (y PKK) a lluoedd diogelwch Twrci.

Mae dwsinau o bobol, y rhan fwya’ ohonyn nhw’n heddweision ac yn filwyr, wedi’u lladd yn y trais ers mis Gorffennaf eleni.