Mae undeb athrawon wedi croesawu’r newydd bod 86.8% o ddisgyblion 7 mlwydd oed wedi cyrraedd y safon disgwyliedig ym mhob pwnc gorfodol ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen.

Ond mae NAHT Cymru hefyd yn rhybuddio bod rhaid mynd i’r afael a’r bwlch rhwng merched a bechgyn yn y dosbarth.

Gwnaeth NAHT Cymru y sylw yn dilyn cyhoeddi adroddiad blynyddol gan Lywodraeth Cymru sy’n edrych ar gyflawniadau disgyblion mewn Saesneg, Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth.

Mae canlyniadau’r Cyfnod Sylfaen yn edrych ar gyflawniad disgyblion 7 oed, canlyniadau Cyfnod Allweddol 2 i rai 11 oed a chanlyniadau Cyfnod Allweddol 3 i rai 14 oed.

Ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen llwyddodd tua 17 o bob 20 – 86.8 y cant – o ddisgyblion i gyrraedd y deilliant disgwyliedig ym mhob maes dysgu gorfodol.

Cyfnod Allweddol 2

Yng Nghyfnod Allweddol 2 roedd canlyniadau’n uwch ym mhob pwnc o’i gymharu â 2014, ac o leiaf 15 pwynt canran yn uwch ym mhob pwnc nag yr oedd yn 1999.

Yr un yw’r hanes gyda Cyfnod Allweddol 3 hefyd gyda canlyniadau’n uwch ym mhob pwnc o’i gymharu â 2014 ac o leiaf 20 pwynt canran yn uwch ym mhob pwnc nag yr oedd yn 1999.

Llwyddodd y merched yn well na’r bechgyn ym mhob pwnc ac ym mhob Cyfnod Allweddol.

Dywedodd Rob Williams, cyfarwyddwr polisi NAHT Cymru: “Rydym yn croesawu’r newyddion bod bron i 87% o’r disgyblion wedi cyrraedd y safon disgwyliedig ym mhob pwnc gorfodol ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen. Mae’n dangos gwaith caled y disgyblion, athrawon ac arweinwyr ysgolion.

“Fodd bynnag, erys y ffaith bod bechgyn dal ar ei hôl hi o’i gymharu a merched. Nid yw hwn yn fater newydd. Mae’n amlwg bod y bwlch rhwng y rhywiau yn rhywbeth mae’n rhaid i Llywodraeth Cymru wneud ymdrech i fynd i’r afael ag o.”