Mae pobol yn Brasil wedi bod yn protestio ar y strydoedd mewn trefi a dinasoedd, er mwyn dangos eu bod yn anhapus gyda llywodraeth y wlad.

Mae’r gwrthdystio wedi’i drefnu bron i gyd ar wefannau cymdeithasol, ac mae wedi’i anelu at yr Arlywydd Dilma Rousseff. Mae hi’n ymladd am ei heinioes wleidyddol ar hyn o bryd, wedi i stori dorri am dwyll y mae gwleidyddion o’i phlaid hi, Plaid y Gweithwyr, yn ei chanol hi.

Mae cefnogwyr Dilma Rousseff hefyd wedi bod yn cynnal eu protestiadau eu hunain mewn cefnogaeth iddi, ond mae’r protestiadau yn ei herbyn wedi’u cynnal mewn 16 o daleithiau ledled y wlad, yn cynnwys un ar draeth eiconig Copacabana yn Rio de Janeiro lle daeth miloedd o bobol ynghyd i chwifio baneri gwyrdd a melyn Brasil.

Roedd protestiadau poblog hefyd yn Belem yn yr Amason; Recife; yn ninas ganolog Belo Horizonte; ac yn y brifddinas, Brasilia.

Mae’r gwrthdystwyr yn galw am gael gwared â Dilma Rousseff, a dychwelyd at drefn unbeniaethol, filwrol debyg i’r un oedd yn rheoli Brasil rhwng 1964-1985.