Mae’r nifer cynyddol o achosion o glefyd y siwgr yng Nghymru a Lloegr yn bygwth dyfodol ariannol y Gwasanaeth Iechyd, yn ôl elusen Diabetes UK.

Mae nifer yr achosion wedi cynyddu 59.8% yn ystod y degawd diwethaf – sy’n golygu 1.2 miliwn o bobol ychwanegol.

Bellach, mae gan 3,333,069 o bobol y clefyd yng Nghymru a Lloegr.

Mae’r elusen yn rhybuddio bod angen gwella’r gofal sydd ar gael i gleifion clefyd y siwgr, a bod rhaid hyrwyddo dulliau o atal y clefyd.

Dim ond 60% o gleifion sy’n derbyn y gofal priodol sy’n cael ei argymell gan sefydiad Nice, a bod diffyg gofal yn gallu arwain at gymhlethdodau iechyd, gan gynnwys colli breichiau a choesau neu strôc.

Mwy na miliwn yn fwy

Dywedodd prif weithredwr elusen Diabetes UK, Barbara Young: “Dros y degawd diwethaf, mae nifer y bobol sy’n byw gyda chlefyd y siwgr yn y DU wedi cynyddu o fwy na miliwn o bobol, sy’n gyfystyr â phoblogaeth gwlad fach fel Cyprus.

“Gyda record yn nifer y bobol sy’n byw gyda chlefyd yn y siwgr yn y DU erbyn hyn, does dim amser i’w wastraffu – rhaid i’r Llywodraeth weithredu nawr.”

Ychwanegodd ei bod yn “annerbyniol” nad yw traean o ddioddefwyr yn derbyn y gofal cywir.

“Mae clefyd y siwgr eisoes yn costio bron i £10 biliwn y flwyddyn i’r Gwasanaeth Iechyd, ac mae 80% o hyn yn cael ei wario ar gymhlethdodau y gellir eu hosgoi.

“Felly mae potensial anferth i arbed arian a lleihau pwysau ar ysbytai a gwasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd drwy ddarparu gwell gofal i atal pobol gyda chlefyd y siwgr rhag cael cymhlethdodau dinistriol a chostus.”

Yn ôl yr elusen, fe fydd gan bum miliwn o bobol glefyd y siwgr erbyn 2025 pe bai’r tueddiadau presennol yn parhau.

Addysg ‘ddim digon da’

Mae llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar wedi rhybuddio nad yw’r addysg am glefyd y siwgr yng Nghymru’n “agos at fod yn ddigon da”.

Wrth alw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys, dywedodd Millar mewn datganiad: “Nid yn unig y mae’r llywodraeth Lafur filltiroedd i ffwrdd o fwrw ei tharged, mae hi’n perfformio ddim ond traean cystal â Lloegr.

“Mae hynny’n wahaniaeth sylweddol y mae angen sylw ar frys arni, strategaeth i wella ar unwaith a sicrwydd y bydd cyfranogwyr [mewn rhaglenni addysg] yn cynyddu’n sylweddol eleni.

“Does dim rheswm o gwbl pam y dylai llai o bobol fod yn gwella’u hunan-reolaeth yng Nghymru nag yn Lloegr.

“Mae gwella dulliau o atal clefyd y siwgr yn hanfodol ar draws y DU, a felly hefyd cynyddu nifer y bobol sy’n derbyn cefnogaeth.

“I nifer cynyddol o bobol sy’n byw gyda chlefyd y siwgr, ni ellir gorbrisio effaith addysg ar ansawdd bywyd.

“Mae gwir botensial i Lywodraeth Cymru gydweithio gyda chlinigwyr, elusennau a chleifion i wella darpariaeth y gweithlu a sicrhau cyfranogiad o fewn y rhaglenni priodol.”