Mae adroddiadau bod awyren o Indonesia oedd yn cludo 54 o bobol wedi mynd ar goll yn nwyrain y wlad.

Collodd awyren Gwasanaeth Awyr Trigana gyswllt gyda’r awdurdodau tra’n hedfan o brifddinas rhanbarth Papua, Jayapura i ddinas Oksibil.

Roedd yr awyren yn cludo 49 o deithwyr a phum aelod staff.

Fe gollodd gyswllt gyda’r awdurdodau 33 o funudau ar ôl dechrau’r daith.