Mae Heddlu’r De’n apelio am wybodaeth am ferch 16 oed sydd ar goll o’i chartref ym Mhenarth.

Dydy Bethan Payne ddim wedi cael ei gweld ers tua 9.30 fore Iau.

Mae hi oddeutu 5’4” a chanddi wallt brown.

Roedd hi’n gwisgo trowsus jeans glas a thop lliw llwydfelyn.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.