Mae llywodraethau Prydain ac Ecwador yn ffraeo tros bwy sy’n gyfrifol am yr oedi yn achos sylfaenydd Wikileaks, Julian Assange.

Mae’r Awstraliad yn byw yn llysgenhadaeth Ecwador yn Llundain ers tair blynedd er mwyn osgoi cael ei estraddodi i Sweden i wynebu cyhuddiadau ei fod wedi cyflawni troseddau rhyw.

Daeth tri allan o bedwar ymchwiliad i ben yr wythnos diwethaf oherwydd treigl amser.

Mae un o weinidogion y Swyddfa Dramor, Hugo Swire wedi dweud bod penderfyniad Ecwador i roi lloches i Assange wedi amharu ar y system gyfiawnder.

Ond mae Gweinidog Materion Tramor Ecwador, Xavier Lasso wedi wfftio’r cyhuddiadau.

Mae Swire yn mynnu bod gan Lywodraeth Prydain gyfrifoldeb i estraddodi Assange i Sweden.

Pryder Assange yw y gallai gael ei gludo i’r Unol Daleithiau i gael ei holi am weithgarwch Wikileaks.

Mae ymdrechion yr heddlu i warchod Assange yn y llysgenhadaeth yn Llundain wedi costio £12 miliwn hyd yn hyn.