Shinzo Abe, prif weinidog Japan
Mae prif weinidog Japan, Shinzo Abe, wedi cadw draw oddi wrth fan gysegredig sy’n anrhydeddu arwyr rhyfel a meirwon eraill, wrth i’w wlad nodi 70 mlynedd diwedd yr Ail Ryfel Byd.

Yn hytrach, fe offrymodd weddi a gosod blodau mewn mynwent yn llawn milwyr dienw, cyn y seremoni flynyddol yn Neuadd Budokan, Tokyo.

Fe agorwyd y seremoni honno gyda munud o dawelwch am hanner dydd, yn nodi darllediad radio’r Ymherawdwr yn dweud fod Japan yn ildio ar Awst 15, 1945.

Fe draddododd mab yr Ymherawdwr, yr Ymherawdwr Akihito, ei araith ei hun, gan ddatgan fod heddwch a llewyrch Japan heddiw wedi dod o ganlynad i “ymdrechion diflino pobol a’u dyhead gwirioneddol am heddwch”. Fe ailadroddodd ei edifeirwch am y rhyfel.

Fe siaradodd Mr Abe hefyd, gan ddiolch i eneidiau meirwon yr Ail Ryfel Byd am eu haberth.