Mae mewnfudwyr anghyfreithlon yn ceisio “torri i mewn” i’r Deyrnas Unedig, meddai David Cameron, gan amddiffyn y ffordd y bu’n disgrifio’r llif o bobol sy’n croesi y Mor Canoldir fel “haid”.

Mae David Cameron o’r farn bod y rheiny sy’n ceisio cyrraedd y Deyrnas Unedig yn gwneud hynny am resymau economaidd yn hytrach nag oherwydd eu bod yn dianc rhag peryglon yn eu gwledydd eu hunain. Mae’n awyddus i wneud yn siwr fod y ffin yn cael ei hamddiffyn yn llawn.

“Mae’r Deyrnas Unedig wedi bod yn un o’r gwledydd mwya’ hael yn Ewrop,” meddai David Cameron, wrth gyfeirio at y nifer o geiswyr lloches sydd wedi’u derbyn wrth iddyn nhw ddianc rhag erlid neu beryg.

“Os edrychwch chi yn ol 25 mlynedd, fe welwch chi fod Prydain wedi bod yn wlad hael, ond beth allwn ni ddim ei wneud ydi gadael i bobol dorri i mewn i’n gwlad ni.

“Mae nifer o bobol sy’n dod i Ewrop yn dod oherwydd eu bod yn chwilio am fywyd gwell, mae yna fewnfudwyr economaidd sy’n awyddus i ddod i Brydain yn anghyfreithlon… a dyna pam fod pobol Prydain a finnau eisiau gwneud yn siwr fod ein ffiniau’n cael eu hamddiffyn, fel nad oes modd i neb ddod i Brydain heb ganiatâd.”

Mae’r golygfeydd anhrefnus wrth geg twnnel y Sianel ger Calais yn un o’r sialensau mwya’ y mae David Cameron wedi’u hwynebu yn ei 100 diwrnod cynta’ fel Prif Weinidog llywodraeth Dorïaidd lawn yn San Steffan.

Fe dynnodd nyth cacwn yn ei ben pan gyfeiriodd at greisis yr “haid” o fewnfudwyr a’r risg yr oedden nhw’n ei beri i bobol Prydain.

“Ro’n i’n egluro fod yna nifer fawr o bobol yn croesi’r Mor Canoldir ac yn dod o’r Dwyrain Canol i mewn i Ewrop,” meddai David Cameron heddiw. “Nid fy mwriad i oedd eu sarhau nhw.

“Dw i ddim yn meddwl fy mod i’n gwneud iddyn nhw deimlo’n llai na phobol chwaith. Edrychwch chi ar y ffordd y mae Prydain wedi ymateb i’r creisis. Mi anfonon ni long i’r Mor Canoldir, ac mae’r llong honno wedi achub miloedd o bobol, wedi arbed miloedd o fywydau.”