Mae cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Jimmy Carter, wedi cyhoeddi ei fod yn diodde’ o ganser, ac y bydd yn derbyn triniaeth mewn ysbyty yn Atlanta.

Fe gyhoeddodd Jimmy Carter, 90, y diagnosis mewn datganiad.

Fe aeth dan y gyllell yn gynharach y mis hwn i dynnu tiwmor bychan o’i iau. Roedd y llawdriniaeth honno wedi dangos y canser.

Jimmy Carter oedd 39eg arlywydd yr Unol Daleithiau. Wedi iddo adael y Ty Gwyn, fe sefydlodd Ganolfan Carter yn Atlanta yn 1982, er mwyn hyrwyddo gofal iechyd, democratiaeth a materion eraill ar draws y byd.