Mae llywodraeth Malaysia am anfon tîm o arbenigwyr i ynys Réunion yn y Maldives, i archwilio darn o awyren sydd wedi’i olchi ar draeth yno.

Dros yr wythnos diwethaf mae awdurdoadau Malaysia a Ffrainc wedi anghydweld dros y  darganfyddiad ar yr ynys yn Nghefnfor India.

Roedd awdurdoadau Malaysia yn credu mai darn o asgell awyren Malaysia Airlines MH370. Aeth yr awyren ar goll ar 8 Mawrth 2014, gyda 239 o bobl arni, tra’n hedfan o Kuala Lumpur i Beijing.

Ond “tebygol” yn unig yn nhyb awdurdodau Ffrainc, sy’n llywodraethu Réunuion mai darn o awyren MH370 sydd wedi ei y ddarganfod. Roeddynt am weld fwy o ymchwil yn digwydd cyn cadarnhau’r darganfyddiad.

Erbyn hyn mae awdurdodau Malaysia wedi gwneud tro pedol ar y darganfyddiad ac yn awr yn dweud  “ei bod yn rhu cynnar i ddyfalu” os mai darn o’r awyren goll ydyw.

Meddai gweinidog trafnidiaeth Malaysia Liow Tiong Lai: “Mae angen i bawb adael i’r proses gwirio cymryd lle. Mae yna ormod o ddyfalu wedi digwydd sydd wedi rhoi straen ar y teuluoedd.”

Lle mae MH370?

Y ddamcaniaeth am beth ddigwyddodd i’r awyren yw ei bod wedi plymio i Gefnfor India tua 1000 o filltiroedd o arfordir Awstralia.

Y gred ydi mai darn o’r asgell sy’n cael ei adnabod fel “flaperon” sydd wedi ei ddarganfod ac mae awdurdodau yn chwilio’r dyfroedd o gwmpas Réunion am fwy o dystiolaeth.