Leon Whittle (Llun: Heddlu De Cymru)
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhoeddi enw dyn ifanc a fu farw mewn damwain ffordd yn ystod oriau mân ddydd Sul.

Bu farw Leon Whittle, 18 oed, toc cyn 3 o’r gloch y bore ar Heol y Fforest ym mhentre’ Tongwynlais ger Caerdydd. Mewn datganiad, mae ei deulu wedi ei ddisgrifio fel “mab annwyl, a brawd mawr ymroddedig i Sam a Sophie”.

“Roedd yn ddyn ifanc deallus a hael,” meddai’r datganiad wedyn, “ac roedd pawb oedd yn ei nabod yn meddwl y byd ohono. Fe fyddwn ni i gyd yn gweld ei golli, a wnawn ni byth ei anghofio.”

Mae dau ddyn ifanc, 23 a 24 oed, yn parhau i dderbyn triniaeth yn Ysbyty’r Brifysgol, Caerdydd, yn dilyn y ddamwain. Maen nhw’n diodde’ o anafiadau difrifol.