Mae arbenigwyr yn “hyderus” bod gweddillion awyren gafodd eu darganfod oddi ar ynys Reunion yng Nghefnfor India yn eiddo awyren Malaysia Airlines MH370 aeth ar goll y llynedd.

Mae llun a gafodd ei dynnu uwchben Cefnfor India yn dangos darn o adain awyren Boeing 777 – yr un math o awyren a ddiflannodd gyda 239 o bobol ar ei bwrdd ar Fawrth 8, 2014.

Mae swyddogion o Ffrainc – sy’n berchen ar ynys Reunion i’r dwyrain o Fadagascar – wedi cyrraedd y safle i archwilio’r gweddillion.

Pe bai’r gweddillion yn eiddo’r awyren MH370, dyma fyddai’r cadarnhad cyntaf fod yr awyren wedi plymio i Gefnfor India ar ôl mynd ar goll ar daith o Kuala Lumpur i Beijing.

Mae Gweinidog Trafnidiaeth Malaysia, Liow Tiong Lai wedi cadarnhau bod arbenigwyr o’r wlad ar eu ffordd i’r safle i adnabod y gweddillion.

Dywedodd llefarydd ar ran cwmni Malaysia Airlines eu bod nhw’n cydweithio â’r ymchwiliad.

Y tro diwethaf i’r awyren fod mewn cyswllt â’r awdurdodau, mae lle i gredu ei bod yn hedfan dros Fôr Radaman, tua 230 milltir i’r gogledd orllewin o ddinas Penang.

Mae ynys Reunion oddeutu 3,500 o filltiroedd i’r de orllewin o’r ddinas.

Adroddiad blaenorol

 

Datgelodd adroddiad ddechrau’r flwyddyn fod batri i ddarganfod lleoliad blwch du’r awyren wedi dod i ben flwyddyn cyn i’r awyren fynd ar goll.

Ond roedd batri arall i leoli blwch du caban y peilot dal yn gweithio.

Mae’r adroddiad 584 tudalen a gafodd ei lunio gan banel o 19 o arbenigwyr annibynnol yn cynnwys manylion am y criw, gan gynnwys yr hyfforddiant roedden nhw wedi’i dderbyn.

Doedd yr adroddiad ddim yn cynnwys unrhyw fanylion anghyffredin.

Bedwar mis ar ôl diflaniad awyren MH370, cafodd awyren Malaysia Airlines 777 ei saethu i lawr dros ddwyrain yr Wcrain, gan ladd pob un o’r 298 o deithwyr.