Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl ceisio rhoi awyren ar dân yn ystod taith yn Tsieina.

Roedd y dyn ar awyren cwmni Shenzhen oedd yn teithio o ddinas Taizhou i Guangzhou ger Hong Kong.

Mae ymchwiliad ar y gweill.

Yn ôl cyfryngau’r wlad, roedd y peilot wedi rhoi gwybod i’r awdurdodau fod yr awyren mewn perygl cyn teithio i faes awyr Guangzhou.

Cafodd 95 o deithwyr a naw aelod o’r criw eu cludo oddi ar yr awyren, a chafodd dau eu hanafu.

Mae’n ymddangos bod y dyn wedi llwyddo i osgoi staff diogelwch y maes awyr cyn mynd ar yr awyren.

Mewn datganiad gan gwmni Shenzhen, daeth cadarnhad o’r digwyddiad ond dydyn nhw ddim wedi cyhoeddi rhagor o fanylion.