Swyddogion yr heddlu ar y traeth yn Sousse wedi'r ymosodiad
Fe fydd gwleidyddion o Tiwnisia yn teithio i’r DU heddiw i gwrdd â theuluoedd y Prydeinwyr gafodd eu saethu’n farw ar draeth yn Sousse ym mis Mehefin.

Fe fyddan nhw hefyd yn ceisio annog y DU i newid y cyngor swyddogol i beidio teithio i’r wlad.

Dywedodd gweinidog trafnidiaeth Tiwnisia, Mahmoud Ben Romdhane, wrth The Guardian bod rhybuddio yn erbyn teithio i’r wlad, oni bai ei fod yn angenrheidiol, yn chwarae i ddwylo’r brawychwyr.

Cafodd 38 o bobl eu lladd yn yr ymosodiad, gan gynnwys 30 o Brydeinwyr.

Wythnos diwethaf cafodd 3,000 o ymwelwyr o’r DU eu cludo o’r wlad yn dilyn rhybudd bod ymosodiad arall yn “debygol iawn” sydd wedi bod yn ergyd arall i ddiwydiant twristiaeth Tiwnisia, sy’n cyfrannu tua 15% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth (GDP) y wlad.