David Cameron
Fe fydd David Cameron yn cyhoeddi cynllun pum mlynedd heddiw i fynd i’r afael ag eithafiaeth yng ngwledydd Prydain.

Mae’r Prif Weinidog wedi rhoi addewid i daclo’r “methiannau integreiddio” sydd wedi golygu bod nifer o Brydeinwyr ifanc wedi cael eu denu gan eithafwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS) ac achosion ffwndamentalaidd eraill.

Fe fydd adolygiad o sut y gall y Llywodraeth helpu cymunedau difreintiedig ymhlith cyfres o gynlluniau ar fydd yn cael eu cyhoeddi gan David Cameron yn y gobaith y bydd yn atal radicaliaeth.

Mae’r heddlu a gwasanaethau diogelwch yn credu bod o leiaf 700 o eithafwyr wedi teithio o Brydain i ymladd gyda milwriaethwyr IS, gyda hanner ohonyn nhw wedi dychwelyd i’r DU ac yn peri bygythiad brawychol.