Mae naw o filwyr o Algeria wedi cael eu lladd yn dilyn ymosodiad i’r de-orllewin o Algiers.

Mae lle i gredu mai eithafwyr Islamaidd oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad yn nhalaith Ain Defla, wrth i fyddin y wlad geisio cadw’r eithafwyr draw.

Cafodd dau filwr arall eu hanafu yn yr ymosodiad.

Dywedodd y fyddin eu bod nhw’n fwy penderfynol fyth o atal yr eithafwyr yn dilyn yr ymosodiad.

Mae cangen gogledd Affrica o Al-Qaida wedi dweud mai nhw oedd yn gyfrifol, gan ddweud eu bod nhw wedi lladd 14 o bobol.