Fe fu cyfres o ffrwydradau yn ninas Gaza wrth i swyddogion Islamaidd, gan gynnwys arweinwyr Hamas, gael eu targedu.
Mae cefnogwyr y Wladwriaeth Islamaidd wedi’u hamau o achosi’r ffrwydradau.
Mae Hamas wedi targedu cefnogwyr y Wladwriaeth Islamaidd yn ddiweddar, a dywedodd tystion fod baner y mudiad ger safle’r ffrwydradau.
Cafodd dyn a dynes eu hanafu yn y digwyddiad.
Mae ymchwiliad ar y gweill, yn ôl swyddogion Hamas.