Prif Weinidog Gwlad Groeg, Alexis Tsipras
Mae disgwyl i aelodau Llywodraeth Gwlad Groeg wrthwynebu’r Prif Weinidog Alexis Tsipras wrth iddo geisio ennill pleidlais ar delerau llym i achub economi’r wlad.
Fe allai Tsipras hefyd orfod wynebu streiciau gan weithwyr y wlad.
Pe bai’r llywodraeth yn cytuno i dderbyn cynnig credydwyr gwerth 85 biliwn Ewro (£60 biliwn), fe fydd trafodaethau’n dechrau yn y llywodraeth.
Mae cynnig y credydwyr yn golygu codi trethi’n sylweddol a thorri pensiynau – ac mae Tsipras eisoes wedi dweud bod y cynlluniau’n “afresymol”.
Oni bai am y cynnig, mae’n debygol iawn y byddai’r banciau wedi chwalu, a fyddai wedi ei gwneud hi’n anochel y byddai Gwlad Groeg yn gadael parth yr Ewro.
Mae disgwyl i’r Bil gael ei basio heb wrthwynebiad gan y gwrthbleidiau heddiw, ond fe allai aelodau’r Llywodraeth benderfynu pleidleisio yn erbyn y cynnig neu ymddiswyddo’n gyfan gwbl.
Maen nhw’n gofidio bod y cynlluniau’n cefnu ar addewid y blaid adeg yr etholiad i wrthod mesurau llymder.
Fe allai’r mater olygu bod Tsipras yn colli ei fwyafrif yn y senedd.
Ond mae’n mynnu na fydd yn ymddiswyddo pe bai hynny’n digwydd.
Mae Llywodraeth Gwlad Groeg wedi cyhuddo’r Almaen – sydd wedi gorfodi’r cynnig ar Wlad Groeg – o ladd economi’r wlad.
Ddoe, dywedodd y Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) fod sefyllfa ariannol Gwlad Groeg yn waeth nag erioed.
Mae disgwyl i ddyledion y wlad godi’n sylweddol dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae Banc Canolog Ewrop wedi rhoi tan ddydd Llun i Wlad Groeg ad-dalu 4.2 biliwn Ewro (£2.9 biliwn).