Geraint Lloyd Owen
Mae Gorsedd y Beirdd wedi cyhoeddi mai Geraint Llifon fydd yr Archdderwydd nesaf.

Geraint Llifon – neu Geraint Lloyd Owen – fydd yn olynu Christine James am y cyfnod o 2016 i 2019.

Ni fydd angen cynnal etholiad gan mai Geraint Llifon oedd yr unig ymgeisydd ar gyfer y swydd.

Bydd cyfarfod cyffredinol Bwrdd yr Orsedd yn cadarnhau’r enwebiad yn ystod wythnos yr Eisteddfod ym Meifod eleni.

Fel athro y dechreuodd Geraint Lloyd Owen ei yrfa, cyn ymddeol yn gynnar i redeg Siop y Pentan yng Nghaernarfon.

Erbyn hyn, mae’n Bennaeth Cyhoeddi yng Ngwasg y Bwthyn.

Ef oedd enillydd Coron Eisteddfod Wrecsam a’r Fro yn 2011 am ddilyniant o gerddi ar y testun ‘Gwythiennau’.

Bydd yr Archdderwydd newydd yn cael ei gyflwyno’n ffurfiol yn ystod Seremoni’r Cadeirio ddydd Gwener, Awst 7, ac fe fydd yn arwain ei seremoni gyntaf adeg Cyhoeddi Eisteddfod 2017 ym Môn.

‘Balchder’

Yn dilyn y cyhoeddiad, dywedodd Geraint Lloyd Owen: “Mae hyn yn destun balchder i mi a’r teulu, a daw yn ystod y cyfnod ar ôl i ni golli Elliw yn ferch 40 oed.

“Gwn y byddai hi’n ymfalchïo yn y cyhoeddiad yma heddiw.

“Bu hi’n rhan fawr o’r penderfyniad i gynnig fy enw, a gwn y byddai’n dweud wrthyf am fynd amdani ac am fwynhau’r profiad pe yn llwyddiannus.

“Bu presenoldeb Elliw ar ôl ei cholli yn ganolog i’r penderfyniad, a bydd am byth yn parhau’n rhan fawr o bopeth yr ydym yn ei wneud.”

Wrth drafod y math o Archdderwydd y byddai’n debygol o fod, dywedodd Geraint Lloyd Owen wrth raglen y Post Cyntaf Radio Cymru: “Mae pob un ohonyn nhw wedi torri’i gwys ei hun, a dyna fydda innau’n ei wneud.

“Dwi’n cyfannu yn hytrach na gwahanu – wrth uno’r Cymry Cymraeg a’r di-Gymraeg.”

Talodd deyrnged i Christine James wrth iddi baratoi i adael ei swydd.

“Mae Christine wedi bod yn Archdderwydd arbennig iawn.”