Gweinidog cyllid Gwlad Groeg Euclid Tsakalotos, yn trafod gyda Rheolwr Gyfarwyddwr yr IMF Christine Lagarde
Mae arweinwyr parth yr ewro wedi dod i gytundeb unfrydol ynglŷn â phecyn ariannol newydd i Wlad Groeg sy’n cynnwys “diwygiadau sylweddol” a “chymorth ariannol”.

Dywedodd llywydd yr Undeb Ewropeaidd, Donald Tusk, y gallai’r cytundeb olygu bod Gwlad Groeg yn aros yn rhan o’r ewro.

Nid oes manylion ynglyn a’r cytundeb rhwng Gwlad Groeg a’i chredydwyr wedi cael eu cyhoeddi hyd yn hyn.

Roedd llywodraeth Athen wedi gwneud cais wythnos ddiwethaf am becyn ariannol o £38.5 biliwn dros gyfnod o dair blynedd gan gronfa ariannol Ewrop.

Yn ystod trafodaethau dros nos, fe awgrymodd credydwyr y byddai’r wlad angen degau o biliynau yn rhagor er mwyn osgoi methdalu.

Daeth y cyhoeddiad am y cytundeb yn fuan bore ma.

Petai’r trafodaethau wedi methu fe fyddai Gwlad Groeg wedi wynebu methdalu gan arwain at adael yr ewro.

Roedd y bygythiad hwnnw wedi rhoi pwysau ar Brif Weinidog y wlad Alexis Tsipras i dderbyn mesurau llymder sylweddol am fod pobl y wlad yn awyddus i aros yn rhan o’r ewro.

Yn ôl pob tebyg mae’r cytundeb newydd yn golygu y bydd Alexis Tsipras yn gorfod cyflwyno mesurau llymder sy’n cynnwys diwygiadau i bensiynau a phreifateiddio erbyn dydd Mercher.

Mae gan y wlad ddyledion o tua £230 biliwn ac mae economegwyr yn credu na fydd y ddyled fyth yn cael ei had-dalu’n llawn.