Mae o leiaf 26 o bobl wedi cael eu lladd ar ôl i hunan fomiwr ffrwydro bom car ger safle milwrol yn nwyrain Afghanistan, yn ôl swyddogion.
Dyma’r diweddaraf mewn cyfres o ymosodiadau gan wrthryfelwyr ers i luoedd tramor ddod a’u hymgyrch yno i ben.
Fe ddigwyddodd y ffrwydrad neithiwr ger Gwersyll Chapman, lle mae rhai lluoedd o America wedi’u sefydlu. Roedd y safle’n cael ei warchod gan luoedd talaith Khost.
Nid yw’n glir ar hyn o bryd a oedd y bomiwr yn ceisio cael mynediad i’r safle neu beth arweinid at yr ymosodiadau.
Roedd nifer o ferched a phlant ymhlith y 26 o bobl gafodd eu lladd.
Cafodd naw o bobl eraill eu hanafu yn y ffrwydrad.