Nigeria
Mae 44 o bobl wedi cael eu lladd ar ôl i ddau fom ffrwydro mewn mosg prysur a bwyty Mwslimaidd yn ninas Jos yn Nigeria.

Dywedodd swyddog o’r gwasanaethau brys bod 67 o bobl eraill wedi’u hanafu.

Fe ffrwydrodd y bom ym Mosg Yantaya wrth i glerigwr blaenllaw annerch y dorf yn ystod Ramadan.

Roedd yr ail fom wedi ffrwydro ym mwyty Shagalinku sy’n boblogaidd gyda gwleidyddion.

Mae dinas Jos wedi cael ei thargedu o’r blaen gyda grŵp eithafol Islamaidd Boko Haram yn hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiadau.