Fe fydd Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cyfres o gynigion ar sut i wella’r Gwasanaeth Iechyd mewn Papur Gwyrdd sydd yn cael ei gyhoeddi heddiw.
Ymysg y newidiadau mae’r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn gobeithio eu cyflwyno bydd dyletswydd gyfreithiol newydd ar staff iechyd i fod yn onest wrth gyfaddef unrhyw gamgymeriadau.
Mae’r papur hefyd yn cynnwys argymhelliad i uno Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru i greu un corff newydd.
Daw’r cynigion wythnos ers i arolwg awgrymu bod gan bobl Cymru lai o ffydd yn eu gwasanaeth iechyd na phobl o Loegr.
“Mae gofal o ansawdd yn greiddiol i Wasanaethau Iechyd Gwladol Cymru,” meddai Mark Drakeford wrth gyhoeddi’r cynlluniau.
“Mae enghreifftiau di-rif o ofal a chymorth rhagorol yn cael eu darparu bob dydd i bobl gan staff ymroddgar ar draws y Gwasanaeth Iechyd. Rydyn ni eisiau i bobl yng Nghymru gael y gwasanaethau iechyd gorau posibl.”
Cynigion y llywodraeth
Ymysg y cynigion y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud yn y Papur Gwyrdd heddiw mae argymhelliad i’w gwneud hi’n ddyletswydd gyfreithiol i ymchwilio i gwynion ar draws gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae disgwyl iddyn nhw hefyd geisio cryfhau rôl cynghorau iechyd cymuned, cysoni safonau ar hyd GIG Cymru a gwasanaethau gofal iechyd annibynnol, a sicrhau bod mwy o rannu gwybodaeth yn digwydd rhwng asiantaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Gallai byrddau iechyd hefyd gael y pŵer i fenthyg arian er mwyn gallu “troi at ffynonellau cyllid arloesol”.
Bydd y Papur Gwyrdd hefyd yn ystyried diwygio maint ac aelodaeth byrddau sefydliadau’r GIG a ffyrdd o wella’r ffordd y mae cyngor proffesiynol gan arbenigwyr yn dylanwadu ar wasanaethau a pholisi.
‘Diwylliant o wella parhaus’
Dywedodd Mark Drakeford fod y cynigion yn rhan o ymgais Llywodraeth Cymru i barhau i godi safonau gofal o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
“Mae’n rhaid i ni gyrraedd safonau uchel yn gyson. Mae llawer o hyn ar waith eisoes, a gallwn adeiladu ar hyn i gefnogi staff a sefydliadau’r Gwasanaeth Iechyd,” meddai’r gweinidog iechyd.
“Mae achosion wedi codi lle nad yw ansawdd a diogelwch y gofal i bobl wedi bod yn ddigon da. Os yw hyn oherwydd arferion gwael, cyfathrebu gwael a diffyg rhannu gwybodaeth neu resymau eraill, allwn ni ddim goddef hyn mewn unrhyw ffordd.
“Mae’r Papur Gwyrdd yn cynnig amryw syniadau ar gyfer adeiladu ar ddiwylliant o wella parhaus, gan ganolbwyntio ar ansawdd gwasanaethau di-ffael gan Wasanaeth Iechyd Gwladol Cymru.
“Rwy’n cyhoeddi cyfnod ymgynghori estynedig ar gyfer y Papur Gwyrdd oherwydd fy mod i eisiau i gynifer o bobl â phosibl i gyfrannu at y drafodaeth am y materion hanfodol bwysig hyn i’n gwasanaeth iechyd.
“Mae’r Papur Gwyrdd hefyd yn amlinellu cynigion ar nifer o faterion llywodraethu a fydd yn helpu i sicrhau bod gan y Gwasanaeth Iechyd y pwerau a’r strwythurau cywir i weithredu er budd gorau cleifion a’r cyhoedd.”
Croeso gan y Ceidwadwyr
Cafwyd croeso i gynlluniau Llywodraeth Cymru gan y Ceidwadwyr yng Nghymru, er i’w llefarydd iechyd Darren Millar ddweud y buasen nhw wedi hoffi i’r cynigion fynd yn bellach mewn rhai meysydd.
“Mae hon yn gam i’w chroesawu ac mae’n glir bod trefniadau llywodraethol presennol GIG Cymru’r Blaid Lafur ymhell o fod yn foddhaol,” meddai Darren Millar.
“Rydyn ni wedi galw am sefydlu arolygiaeth iechyd sydd yn annibynnol o weinidogion a mwy o hyblygrwydd ariannol i fyrddau iechyd ers sbel, felly dw i’n falch iawn bod y cynigion yma’n cael eu cyflwyno.
“Fodd bynnag, dyw cynlluniau’r llywodraeth Lafur ar gyfer aelodaeth Byrddau Iechyd Lleol ddim yn mynd yn ddigon pell.
“Tra mod i’n nodi bod meddwl agored ynglŷn â chyflwyno elfen etholedig i’r Byrddau, byddai’r trefniadau hynny ddim yn mynd mor bell â chynlluniau Ceidwadwyr Cymru i gael Comisiynwyr Iechyd wedi’u hethol, fyddai’n rhoi cleifion wrth galon y GIG a throsglwyddo penderfyniadau am wasanaethau iechyd o’r bobl sydd wedi cael eu penodi gan weinidogion ac i ddwylo cymunedau Cymru.”