Richard Guest
Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i ddyn “dewr” 74 oed fu farw tra’n ceisio achub dwy ferch a aeth i drafferthion yn y môr yn Nhywyn, Meirionnydd.

Roedd Richard Guest wedi ceisio helpu dyn arall aeth i’r môr yn Nhywyn i achub dwy ferch gafodd eu dal mewn crychdonnau tua 3.45yp ddydd Sadwrn.

Mewn datganiad dywedodd y teulu bod un o’r merched wedi llwyddo i ddod yn ol i’r lan yn ddiogel ond bod merch arall mewn trafferthion. Roedd Richard Guest tua 40 llath o’r lan a chafodd ei weld yn dal y ferch allan o’r dŵr yn ei freichiau erbyn i Wylwyr y Glannau yn Aberdyfi gyrraedd.

Bu’n rhaid i Richard Guest gael ei achub gan Wylwyr y Glannau ar ol mynd i drafferthion ei hun a chafodd ei gludo mewn Ambiwlans Awyr i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth lle bu farw.

Roedd Richard Guest o Walsall wedi bod ar wyliau gyda’i wraig Margaret, 71, ac yn cerdded ar y traeth gyda’u ci pan aeth y merched i drafferthion.

Dywedodd ei ferch Ceri Donovan bod ei thad wedi cael ei fagu ym Methel ger Caernarfon ac yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Syr Hugh Owen: “Ni allwn ni ddychmygu bywyd hebddo. Roedd cymaint o bobl yn ei garu. Dyna’r math o beth dew

“Roedd yn nofiwr cryf ac wedi arfer a nofio yn y rhan yna o’r traeth. Dyna’r math o beth dewr y byddai ef yn ei wneud… Roedd yn dad arbennig ac yn daid cariadus iawn.”

Mae nifer o deyrngedau wedi cael eu rhoi i Richard Guest ar dudalen Facebook Love Tywyn, yn ei ddisgrifio fel dyn dewr, caredig ac “arwr”.