Yanis Varoufakis, cyn-weinidog cyllid Gwlad Groeg
Mae gweinidog cyllid Gwlad Groeg wedi cyhoeddi ei fod yn ymddiswyddo, yn dilyn refferendwm ddoe pan bleidleisiodd 61% o bobl y wlad yn erbyn telerau benthyciad ariannol Ewropeaidd.

Roedd Yanis Varoufakis a’r Prif Weinidog Alexis Tsipras wedi ymgyrchu’n gryf o blaid pleidlais ‘Na’, ac roedd canlyniad y refferendwm ddoe yn un ysgubol gyda 61.3% yn pleidleisio i wrthod cynnig Ewrop.

Mae disgwyl nawr i Alexis Tsipras ddychwelyd i Frwsel i geisio taro bargen newydd â’r Undeb Ewropeaidd er mwyn ceisio delio â dyled sylweddol Gwlad Groeg ac atal argyfwng ariannol.

Ond mewn cam annisgwyl mae Yanis Varoufakis bellach wedi ymddiswyddo er i’r refferendwm fynd o’u plaid, gan feio hynny ar elynion o fewn yr Undeb Ewropeaidd.

‘Pwysau gan Ewrop’

Wrth gyhoeddi ei ymddiswyddiad fe ddywedodd Yanis Varoufakis fod gweinidogion cyllid eraill Ewrop wedi’i gwneud hi’n glir eu bod nhw eisiau iddo fynd.

Mynnodd fodd bynnag fod canlyniad y bleidlais yn “foment unigryw pan heriodd gwlad Ewropeaidd fechan gaethiwed y ddyled”.

“Yn fuan ar ôl canlyniadau’r refferendwm, cefais wybod beth oedd dewis delfrydol rhai aelodau o’r grŵp Ewro, a rhai o’r ‘partneriaid’, fy mod i … ‘yn absennol’ o’i chyfarfodydd; syniad a benderfynodd y Prif Weinidog allai fod yn gynorthwyol iddo wrth geisio dod i gytundeb,” meddai Yanis Varoufakis mewn blog.

“Am y rheswm hwnnw, rydw i’n gadael y Weinidogaeth Gyllid heddiw.

“Rydw i’n ei hystyried hi yn ddyletswydd i helpu Alexis Tsipras i fanteisio, pa bynnag ffordd mae e am wneud, ar y cyfalaf mae pobl Gwlad Groeg wedi’i roi i ni yn y refferendwm ddoe.”

Trafodaethau brys

Mae penderfyniad pobl Gwlad Groeg i wrthod cynnig yr Undeb Ewropeaidd, fodd bynnag, yn golygu y gallai’r wlad fynd i drafferthion economaidd mwy difrifol yn y dyddiau a’r wythnosau nesaf.

Roedd llywodraeth Alexis Tsipras yn anhapus iawn â’r pecyn llymder gafodd ei gynnig iddynt gan Ewrop, oedd yn mynnu bod y wlad yn gwneud toriadau mawr ar wariant a chyflwyno trethi llawer uwch.

Heb gytundeb gyda Gwlad Groeg fyddai dim benthyciadau ariannol pellach yn dod iddynt oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd, gan olygu rhagor o ansicrwydd economaidd i’r wlad.

Fe allai hynny olygu bod y wlad hyd yn oed yn gadael yr Ewro a’r Undeb Ewropeaidd a gorfod ailgynhyrchu ei harian ei hun, y drachma.

Mae disgwyl i Ganghellor yr Almaen Angela Merkel ac Arlywydd Ffrainc Francois Hollande gyfarfod heddiw am drafodaethau brys ynglŷn â sut i ddelio â’r sefyllfa, cyn i arweinwyr gwledydd yr Ewro i gyd, gan gynnwys Gwlad Groeg, gyfarfod ym Mrwsel fory.

Dywedodd llefarydd ar ran y Prif Weinidog David Cameron y byddai’n gwneud “beth bynnag sydd ei angen” i amddiffyn “diogelwch economaidd” Prydain yn ystod yr ansicrwydd presennol.

Mae’r FTSE 100 wedi gostwng  73.3 o bwyntiau i  6509.5 heddiw yn dilyn y bleidlais Na.