Prif Weinidog Gwlad Groeg, Alexis Tsipras, yn bwrw pleidlais yn y refferendwm heddiw
Mae tri arolwg barn sydd wedi cael eu cynnal yn ystod refferendwm Gwlad Groeg yn awgrymu mai’r bleidlais Na fydd yn ennill.

Fe allai canlyniad y bleidlais effeithio ar ddyfodol y wlad ym mharth yr ewro.

Mae miloedd o bobl Gwlad Groeg wedi bod yn bwrw pleidlais heddiw i benderfynu a ddylen nhw wrthod neu dderbyn pecyn o doriadau llym sydd wedi cael ei gynnig gan gredydwyr er mwyn  cael rhagor o arian.

Y darogan yw bod 60% wedi pleidleisio yn erbyn rhagor o fesurau llymder.

Mae’r Prif Weinidog Alexis Tsipras wedi annog pleidleiswyr i wrthod cynigion y credydwyr, ond mae’r gwrthbleidiau’n dadlau y byddai pleidlais Na yn peryglu safle’r wlad ym mharth yr ewro.

Maen nhw’n dweud y byddai pleidlais Ie yn sicrhau cytundeb newydd yn gyflym er mwyn achub economi bregus Gwlad Groeg.

Ar ôl bwrw ei bleidlais heddiw, dywedodd Alexis Tsipras bod y Groegwyr o blaid Ewrop unedig ond eu bod eisiau byw “gydag urddas.”

Ychwanegodd bod y refferendwm yn dangos bod gan bobl y wlad yr hawl i ddewis eu dyfodol.  Mae Tsipras yn credu y byddai pleidlais Na yn sicrhau gwell cytundeb gyda chredydwyr am ragor o arian.

Mae’r gorsafoedd pleidleisio bellach wedi cau.