Trudy Jones o'r Coed Duon
Mae cwest wedi clywed bod mam i bedwar o blant o’r Coed Duon wedi marw ar ôl cael ei saethu unwaith yn ei gwddf a’i brest mewn ymosodiad ar draeth yn Tiwnisia.
Roedd Trudy Jones, 51, ymhlith 30 o bobl o Brydain gafodd eu lladd yn y gyflafan yn Sousse dros wythnos yn ôl.
Clywodd Llys y Crwner yng ngorllewin Llundain heddiw bod Trudy Jones wedi marw o ganlyniad i un ergyd i’w gwddf a’i brest, meddai’r Ditectif Sarjant David Batt o uned wrth-frawychiaeth Scotland Yard.
Roedd Trudy Jones ar wyliau gyda’i ffrindiau pan gafodd ei lladd yn yr ymosodiad gan ddyn arfog.
Mae’r crwner Chinyere Inyama wedi rhyddhau ei chorff yn swyddogol i’w theulu er mwyn iddyn nhw allu cynnal ei hangladd.
Clywodd y cwest heddiw hefyd bod cwpl o Crawley yn Sussex, John a Janet Stocker, wedi marw ar ôl cael eu saethu yn eu pelfis.
Cafodd cyrff y rhai gafodd eu lladd yn Twnisia eu cludo yn ôl i safle’r Awyrlu yn Brize Norton yn Sir Rhydychen yn ystod y dyddiau diwethaf.
Mae 15 o gwestau wedi cael eu hagor i’w marwolaethau hyd yn hyn ac mae disgwyl i 15 arall gael eu cynnal o fewn y dyddiau nesaf.