Senedd Gwlad Groeg
Mae pobl Gwlad Groeg wedi dechrau bwrw eu pleidlais mewn refferendwm heddiw, i benderfynu a ddylen nhw dderbyn cynigion credydwyr am becyn o doriadau llym er mwyn  cael rhagor o arian, neu wrthod y cytundeb.

Mae arolygon barn yn awgrymu ar hyn o bryd bod hanner o blaid a hanner yn erbyn. Mae hefyd yn dangos bod mwyafrif helaeth y bobl – tua 75% – eisiau i Wlad Groeg aros ym mharth yr ewro.

Fe fydd y gorsafoedd pleidleisio ar agor tan 7yh heno (amser lleol).

Mae’r Prif Weinidog Alexis Tsipras yn mynnu y byddai pleidlais Na yn cryfhau ei ddadl dros ddod i gytundeb mwy ffafriol gyda chredydwyr y wlad.

Ond mae’r gwrthbleidiau yn cyhuddo Alexis Tsipras o beryglu aelodaeth Gwlad Groeg ym mharth yr ewro.

Fe fethodd Gwlad Groeg i dalu ei dyledion wythnos ddiwethaf erbyn y terfyn amser, ar ôl methu a dod i gytundeb gyda’r Undeb Ewropeaidd a’r Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF).

Bu’n rhaid i’r banciau gau ac roedd pobl wedi methu codi eu harian o’r banciau.

Mae ’na ddyfalu ynglŷn ag effaith y refferendwm ar lywodraeth Alexis Tsipras ac mae’r dirprwy Brif Weinidog Yiannis Dragasakis wedi gwadu adroddiadau  y byddai’n fodlon arwain llywodraeth “glymblaid”.

Ddoe, cafodd ralïau eu cynnal yn Llundain, Leeds, Lerpwl, Bryste a Chaeredin, er mwyn dangos cefnogaeth i bobl Gwlad Groeg ar drothwy’r refferendwm, ac mae disgwyl i rali gael ei chynnal ym Manceinion heddiw.