Blodau ger y safle ar draeth yn Sousse lle cafodd 38 o bobl eu lladd
Mae dyn o Bontypridd a gafodd ei saethu deirgwaith gan ddyn arfog ar draeth yn Tiwnisia wedi bod yn son am ei brofiadau.
Cafodd Matthew James, 30, ei saethu wrth iddo geisio amddiffyn ei ddywedodd Saera Wilson, 26, yn ystod y gyflafan.
Dywedodd Matthew James ei fod wedi gweld y dyn arfog, Seifeddine Rezgui, yn tanio gwn at dwristiaid wrth iddyn nhw dorheulo ar y traeth yn Sousse, ac nad oedd “unrhyw emosiwn yn ei wyneb” wrth iddo ladd 38 o bobl.
Roedd Trudy Jones, 51 oed, o’r Coed Duon ymhlith y rhai gafodd eu lladd.
Mae Matthew James yn parhau i wella yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd mwy nag wythnos ers yr ymosodiad.
Roedd y cwpl wedi gadael eu dau blentyn, Tegan, 6 a Kaden, 14 mis oed, adref gyda’u teulu tra’u bod ar wyliau yn Sousse.
‘Dwi’n mynd i farw’
Mewn cyfweliad gyda’r Sunday Mirrorr dywedodd Matthew James ei fod wedi clywed ergydion gwn ac wedi taflu ei hun a’i bartner Saera Wilson i’r llawr.
“Dyna pryd ges i fy saethu. Doedd o ddim yn brifo ar y dechrau, roedd yn deimlad rhyfedd a nes i ddweud wrth Saera, ‘Dwi wedi cael fy saethu’,” meddai wrth y papur.
Ychwanegodd: “Roeddwn i’n gorwedd yn wynebu Saera o dan y gwely haul. Nes i ddeud, ‘dwi’n mynd i farw.’ Dyna pryd nes i ofyn iddi i ddweud wrth y plant fy mod i’n eu caru a bod yn rhaid iddi hi ddianc er mwyn bod gyda nhw.”
Dywedodd ei fod wedi gweld Rezgui yn troi’r gwelyau haul drosodd er mwyn “gwneud yn siŵr eu bod wedi marw.”
“Doedd dim emosiwn yn ei wyneb.”
Gydag anafiadau i’w ysgwydd, ei frest a’i glun, fe lwyddodd Matthew James i gyrraedd Gwesty’r Imperial wrth i’w ddyweddi chwilio amdano ymhlith y meirw oedd yn cael eu cludo i westy cyfagos y Belle Vue. Fe glywodd hi yn ddiweddarach ei fod wedi cael ei gludo i’r ysbyty.
Cofeb
Mae cyrff y 30 o bobl o Brydain gafodd eu lladd bellach wedi cael eu cludo yn ôl i’r DU a chwest wedi agor i’w marwolaethau.
Mae disgwyl i ragor o gwestau gael eu hagor yn swyddogol heddiw.
Yn y cyfamser mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd cofeb barhaol i gofio’r rhai gafodd eu lladd yn Tiwnisia.
Mae Arlywydd Tiwnisia wedi cyhoeddi stad o argyfwng yn sgil yr ymosodiad yn y wlad.