Mae arlywydd Tiwnisia wedi cyhoeddi Stad o Argyfwng, wythnos wedi ymosodiad terfysgol ar draeth yno a laddodd 38 o bobol.
Mae teledu’r wlad newydd gyhoeddi y bydd yr Arlywydd Beji Caid Essebsi yn annerch y wlad yn ddiweddarach heddiw, er mwyn egluro’r hyn sydd wedi bod yn digwydd ers yr ymosodiad ar draeth yn Sousse ddydd Gwener, Mehefin 26.
Fe gafodd yr ymosodwr ei ladd gan yr heddlu, ac mae grwp terfysgol IS wedi hawlio cyfrifoldeb am y trais, er mwyn ceisio taro democratiaeth ifanc Tiwnisia ac ymosod ar ei diwyiant twristiaeth.
Mae Tiwnisia wedi addo cyfreithiau newydd a fydd yn rhoi mwy o rym i’r heddlu a chosbau llymach i bobol a fydd yn cyflawni troseddau terfysgol.
Yn union wedi’r ymosoiad, fe addawodd prif weinidog y wlad y bydd mwy o swyddogion diogelwch mewn mannau twristaidd.