Mae heddlu wedi arestio dau ddyn ar amheuaeth o brynu a gwerthu caethweision, wedi i fan droi drosodd ar draffordd yn Lloegr heddiw.

Mae bachgen 15 oed wedi’i gludo i’r ysbyty, ond nid yw ei anafiadau’n rhai difrifol.

Fe gafodd y ddau ddyn eu harestio wedi i’w fan, a oedd yn tynnu carafan, fod mewn gwrthdrawiad ar draffordd yr M11 yn Essex toc wedi 5 o’r gloch y bore ger y troadau am Stansted a Great Chesterford.

Mae’r dynion 42 a 19 oed, ill dau o wlad Pwyl, wedi’u harestio hefyd ar amheuaeth o yrru’n beryglus.

Mae trydydd dyn, 29 oed ac o wlad Pwyl, wedi’i arestio ar amheuaeth o dorri rheolau mewnfudo.

Mae’r tri dyn yn parhau yn y ddalfa, ac maen nhw’n cael eu holi gan yr heddlu ar hyn o bryd.