Mae profion am y feirws Ebola wedi dod yn eu holau’n negyddol, wedi i ddyn yn Llandudno gael ei daro’n wael yr wythnos hon.

Fe ddaeth gwyddonwyr mewn siwtiau gwynion i’r prom yn y dre’ lan y môr ddoe, ac fe gludwyd y gwr mewn ambiwlans i ysbyty yn Lerpwl. Roedd confoi o geir heddlu wedi hebrwng yr ambiwlans bob cam ar hyd briffordd yr A55.

Ond mae llefarydd ar ran y corff, Iechyd Cyhoeddus Lloegr, bellach wedi cadarnhau nad yw’r dyn yn diodde’ o Ebola.

Yn gynharach eleni, fe ddaeth y feirws yn stori fawr wrth iddo ymledu trwy wledydd tlota’ Affrica fel Sierra Leone a Liberia.