Mae Iran, ynghyd â chwech o wledydd mawr y byd, wedi dod i gytundeb gofalus o ran natur y sancsiynau fydd yn cael eu gosod ar weinyddiaeth Tehran fel rhan o gytundeb ehangach ar egni ac arfau niwclear.

Mae uwch-swyddogion Iran eto i arwyddo’r ddogfen sy’n dweud pryd a sut y bydd y sancsiynaun cael eu codi.

Ond mae’r diplomyddion yn awyddus i bwysleisio fod y ddogfen wedi cael ei derbyn gan arbenigwyr ar y naill ochr a’r llall, a’r rhain yw’r bobol sydd wedi bod yn trafod y manylion ers Tachwedd 2013.

Dyma un o’r cytundebau mwya’ “pigog”, yng ngeiriau’r swyddogion, rhwng Iran a’r Unol Daleithiau erioed.