Mae nifer o ralïau yn cymryd lle ledled gwledydd Prydain heddiw er mwyn dangos cefnogaeth i bobol Groeg ar drothwy refferendwm yn y wlad honno.

Fory, fe fydd disgwyl i bleidleiswyr Groeg ddweud p’un ai ydyn nhw o blaid derbyn pecyn o doriadau llym sydd wedi’i cynnig gan fenthycwyr rhyngwladol, yn gyfnewid am fenthyciad ariannol pellach o gronfa Ewropeaidd.

Mae nifer o Roegwyr sy’n byw yn y Deyrnas Unedig yn dychwelyd adref er mwyn bwrw eu pleidleisiau.

Heddiw, fe fydd ralïau’n cael eu cynnal yn Sgwar Trafalgar, Llundain; yn Leeds, Lerpwl, Bryste a Chaeredin, ac mae disgwyl i rali gael ei chynnal ym Manceinion fory.

Mae banciau gwlad Groeg wedi bod ar gau ar hyd yr wythnos er mwyn osgoi rhuthr i dynnu arian allan. Mae refferendwm yfory wedi’i alw gan brif weinidog asgell chwith y wlad, Alexis Tsipras, a gafodd ei ethol ar ei addewid i wrthwynebu toriadau wedi chwe blynedd o ddirwasgiad.

Fe gynhaliwyd ralïau gan y ddwy ochr yn ninas Athen neithiwr.