Mae heddlu yn ynysoedd y Ffilipinas wedi cyhuddo perchennog a chriw fferi o sawl achos o lofruddiaeth, wedi i’r fferi honno droi drosodd wrth adael y porthladd, a lladd dros hanner cant o bobol.

Fe gafodd y cyhuddiadau eu gwneud tra bod y fferi 36 tunnell, MB Kim Nirvana, yn cael ei chodi o’r dwr ddiwedd yr wythnos hon. Fe gafodd 59 o bobol eu lladd yn y ddamwain, tra bod 145 o bobol wedi goroesi, yn cynnwys pob un o’r 18 o griw.

Fe drodd y fferi ar ei hochr unwaith y gadawodd borthladd Dinas Ormoc a chael ei tharo gan donnau cryfion. Roedd y fferi ar ei ffordd tua’r de, i Ynysoedd Camotes, rhyw 20 milltir i ffwrdd.

Roedd y fferi hefyd yn cario deunyddiau adeiladu trwm, a bagiau o reis.