Safle'r ddamwain yn Medan, gogledd Sumatra
Mae 37 o bobl wedi marw mewn damwain awyren y llu awyr yn Indonesia wedi iddi blymio i’r ddaear mewn ardal boblog yn ninas Medan yn Sumatra.
Mae dau o bobl eraill wedi’u hanafu’n ddifrifol.
Mae’r orsaf radio lleol, El Shinta, wedi dweud fod yr awyren wedi taro i mewn i gartrefi yn yr ardal.
Mae delweddau sydd wedi cael eu darlledu ar y teledu yn Indonesia’n dangos yr awyren Hercules C-130 yn taro’r ddaear mewn fflamau.
Dywedodd llefarydd ar ran y llu awyr, Dwi Badarmanto, fod y ddamwain wedi digwydd dwy funud ar ôl i’r awyren adael maes awyr Medan.
Roedd y peilot wedi rhybuddio rheolwyr traffig awyr bod problemau gyda’r injan a bod angen i’r awyren droi nol a dychwelyd i’r maes awyr. Roedd yr awyren wedi dechrau troi am y maes awyr pan ddigwyddodd y ddamwain.
Roedd 17 o griw ar fwrdd awyren y llu awyr.