Mae Dŵr Cymru wedi rhybuddio pobl o beryglon nofio mewn cronfeydd yn ystod tywydd poeth, wrth i ragolygon awgrymu bod gwres uchel ar y ffordd.

Dros y dyddiau nesaf mae disgwyl i’r tymheredd godi i hyd at 27 gradd Celsius mewn rhai mannau yng Nghymru, gyda disgwyl y bydd llawer yn ceisio manteisio ar fod allan yn y tywydd braf.

Fe allai’r tymheredd hyd yn oed gyrraedd 35 gradd mewn rhai ardaloedd o Loegr erbyn dydd Mercher, yr uchaf ers rhai blynyddoedd.

Mae disgwyl i’r tymhered fod yn y 20au am y rhan fwyaf o’r wythnos, er y gall fod rhywfaint o law ar brydiau, a fydd pethau ddim llawer gwell yn ystod y nos chwaith gyda disgwyl y bydd hi dal rhwng tua 16 ac 19 gradd.

Peryglon

Yn sgil y rhagolygon mae Dŵr Cymru wedi rhybuddio pobl i beidio â nofio yn eu cronfeydd yn ystod y tywydd poeth gan eu bod yn “beryglus dros ben ac yn gallu lladd”.

Yn ôl yr asiantaeth ddŵr fe allai’r dyfroedd dwfn ac oer beri anawsterau hyd yn oed i nofwyr profiadol, ac mae’r cronfeydd yn aml mewn ardaloedd lle does dim signal ffôn da iawn os oes angen galw am help.

“Mae ein cronfeydd dŵr yn llefydd gwych i fwynhau gweithgareddau dan oruchwyliaeth, ond mae pobl yn cael eu temtio’n rhy aml i fentro mynd i nofio, sy’n gallu dwyn goblygiadau trasig,” meddai’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Dŵr, Ian Christie.

“Er bod cronfeydd dŵr i’w gweld yn llefydd gwych i oeri, maen nhw’n llawn peryglon cudd, am fod y dŵr yn rhewllyd a’r cerrynt yn gryf.

“Rydyn ni’n gofyn bod cwsmeriaid yn cofio bod cronfeydd yn safleoedd gweithredol sy’n rhan bwysig o’r cylch dŵr. Dyna pam ein bod ni’n cynnal ymgyrchoedd bob blwyddyn i atgoffa pobl o’r peryglon.”