Vladimir Putin
Mae arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, wedi beirniadu y modd y mae’r Undeb Ewropeaidd wedi delio â chreisis dyledion gwlad Groeg, gan fynnu y dylai’r ffocws fod ar helpu’r wlad i dyfu’n economaidd eto.

Roedd Mr Putin yn siarad wrth i wlad Groeg barhau i drafod – a mynd benben gyda’i chredydwyr, gan orfod wynebu’r ffaith y gallai’r wlad orfod gadael parth yr Ewro pe bai hi’n methu â thalu ei dyledion cyn diwedd y mis.

Fe ddylai llywodraeth Mosgow, ar y llaw arall, meddai, gael ei chanmol am daro cytundeb gyda Groeg i ddarparu nwy i Ewrop. Trwy’r cytundeb hwnnw, lle bydd nwy’n cael ei gario i Ewrop trwy wlad Twrci, fe allai Groeg ennill miliynau o bunnau y flwyddyn.

Fe ddaeth y fargen honno wedi i brif weinidog Groeg, Alexis Tsipras, ymweld â St Petersburg i drafod gyda Mr Putin. Fe ddaeth y trafodaethau hynny i ben, fodd bynnag, heb gynnig o fenthyciad gan Rwsia a allai ddod gwlad Groeg allan o’r twll ariannol.

Mae amser yn brin i lywodraeth Mr Tsipras, ac mae’n rhaid iddi ddod o hyd i 1.6 biliwn ewro (£1.15 bn) i’w dalu’n ôl i’r Gronfa Ariannol Ryngwladol (IMF) erbyn Mehefin 30.