Ian Clifford Jones (Llun: Heddlu Gogledd Cymru)
Mae dyn 47 mlwydd oed sydd wedi’i gael yn euog o dreisio gwraig ganol oed, fregus, wedi’i garcharu am 12 mlynedd.

Fe glywodd Llys y Goron Caernarfon fod gan Ian Clifford Jones o Benygroes, Dyffryn Nantlle, 88 o droseddau eraill ar ei record.

Dywedodd y barnwr fod y ddioddefwraig wedi gwneud ei gorau i wthio Ian Cliffordd Jones i ffwrdd, a’i bod wedi sgrechian a chrio. Ond roedd o wedi trio cael ei ffordd ei hun trwy ddweud ei fod yn ei charu hi.

Roedd yr erlyniad wedi dadlau fod yna achos o “dargedu dioddefwraig fregus”. Fe fydd enw Ian Clifford Jones ar y gofrestr troseddwyr rhyw am weddill ei oes.