Fe fydd y myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a’r ymgyrchwyr iaith sydd wedi meddiannu neuadd Pantycelyn yn Aberystwyth ers bron i wythnos yn cynnal diwrnod agored ar y safle heddiw. Daw wedi i Brifysgol Aberystwyth gyhoeddi cynnig ddoe i wneud gwaith atgyweirio angenrheidiol ar y neuadd yn ystod y pedair blynedd nesa’, er mwyn medru ei ail-agor fel llety i fyfyrwyr Cymraeg.

Cyn hynny, roedd yr ymgyrchwyr yn galw am achub y neuadd gan fod y brifysgol wedi bygwth ei gau.

Ar y safle heddiw, bydd digwyddiadau’n cael eu cynnal yn ystod y dydd sy’n cynnwys cerddoriaeth gan Swnami a Tecwyn Ifan ac anerchiad gan Alun Ffred Jones a’r ymgyrchydd iaith Seimon Brooks. Yn ogystal, bydd Talwrn y Beirdd yn cael ei arwain gan Tudur Dylan Jones.

Dywedodd un o’r ymgyrchwyr Heledd Llwyd bod croeso i bawb i’r neuadd: “Rydyn ni’n estyn gwahoddiad i bawb sydd wedi byw ym Mhantycelyn, a phawb arall sy’n cefnogi’r ymgyrch i ddod i’r diwrnod agored dydd Sadwrn. Dyma’r penwythnos i achub Pantycelyn!”

Cyhoeddywd ar ddechrau’r wythnos y byddai diwrnod agored ac ympryd yn cael ei gynnal fel rhan o’r ymgyrch, ond mae’r ympryd wedi ei ganslo yn sgil cyhoeddiad y brifysgol ddoe.