Mae lladron wedi dwyn gwerth £12,000 o fisgedi o ffatri yn ne Cymru.

Cadarnhaodd Heddlu Gwent bod tryc oedd yn cario’r bisgedi wedi cael ei ddwyn o du allan i ffatri Burton’s Food yng Nghwmbrân.

Bellach, mae’r tryc wedi cael ei ddarganfod yn ardal Warrington ac mae ymchwiliad ar y gweill yn dilyn y digwyddiad ar 17 Mehefin.

Dywedodd llefarydd o’r cwmni eu bod yn cynorthwyo Heddlu Gwent gyda’i hymchwiliadau.

Gofynnir i unrhyw un sydd a gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu a’r heddlu ar 101.