Helle Thorning-Schmidt (Soerfm CCA 2.5)
Mae Helle Thorning-Schmidt, sy’n ferch yng nghyfraith i’r cyn arweinydd Llafur, Neil Kinnock, wedi cyhoeddi ei bod yn ymddiswyddo o fod yn Brif Weinidog Denmarc.

Hynny ar ôl iddi golli etholiad cyffredinol i floc mwy asgell dde ar ôl i blaid wrth-fewnfudwyr a gwrth-Undeb Ewropeaidd ennill tir.

Fe gyhoeddodd Helle Thorning-Schmidt hefyd y bydd yn ymddiswyddo o fod yn arweinydd Plaid y Democratiaid Cymdeithasol yn Nenmarc.

Ond, wrth fynd, fe ddywedodd ei bod yn gadael y wlad “mewn cyflwr da”.

Gwrthwynebu mewnfudo

Yr enillwyr mawr yn yr etholiad oedd Plaid Pobol Denmarc, sy’n gwrthwynebu mewnfudo ac eisiau lleihau dylanwad yr Undeb Ewropeaidd ar y wlad.

Trwy ennill 21% o’r bleidlais fe wnaethon nhw helpu clymblaid y dde i gyrraedd mwyafrif.

Mae Helle Thorning-Schmidt yn briod â Stephen Kinnock, AS newydd Aberafon, a’r canlyniad yn dod ychydig tros fis ar ôl methiant ei blaid yntau yn Etholiad Cyffredinol Prydain.