Pobol yn y sioe y llynedd (o wefan y digwyddiad)
Fe fydd ffigyrau blaenllaw o’r diwydiant gemau fideo Cymreig yn cwrdd yng Nghaerdydd heddiw i drafod ffyrdd o gryfhau cyfran Cymru o’r diwydiant gwerth £1 biliwn.

Mae’r brifddinas eisoes yn cael ei hystyried yn un o 12 hwb ar gyfer datblygu a chreu gêmau, yn ôl arbenigwyr, ac mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio y bydd y sector yn creu mwy o swyddi uchel yn y dyfodol.

Mae bwriad hefyd i geisio cynyddu’r gwerthiant rhyngwladol.

‘Maes pwysig’

“Mae’n faes pwysig o fewn y diwydiant creadigol sy’n cynnig swyddi parhaol, a dyma pam ein bod yn awyddus iddo dyfu yng Nghymru,” meddai Gweinidog yr Economi, Edwina Hart.

Fe fydd cynrychiolwyr o gwmnïau gêmau, gwerthwyr ac arbenigwyr o’r diwydiant yn cwrdd ar gyfer Sioe Datblygu Gêmau Cymru  yn Neuadd Dinas Caerdydd.

Dyma bedwaredd flwyddyn y digwyddiad, sy’n cael ei drefnu gan gwmnïau yn y diwydiant, ac roedd mwy na 550 o bobol wedi bod yn rhan ohono y llynedd.

Fe fydd y diwrnod hefyd yn cynnwys gwobrau BAFTA Cymru am gêmau a phrofiad rhyngweithiol.