Mae erlynwyr yn Y Swistir yn ymchwilio i 53 o drafodion ariannol amheus mewn perthynas â cheisiadau Rwsia a Qatar i gynnal Cwpan y Byd.

Rwsia oedd yr ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer 2018, tra bo Qatar wedi’i dewis ar gyfer 2022.

Ond dywedodd twrnai cyffredinol Y Swistir, Michael Lauber wrth gynhadledd i’r wasg yn ninas Bern fod 53 o drafodion amheus yn cael sylw arbennig fel rhan o ymchwiliad i ymddygiad nifer o swyddogion FIFA.

Mae’n bosib y gallai’r ymchwiliad gymryd nifer o flynyddoedd i’w gwblhau oherwydd swmp y data cyfrifiadurol sydd angen ei archwilio.

Dydy hi ddim yn glir eto a fyddai llywydd FIFA, Sepp Blatter neu’r ysgrifennydd cyffredinol Jerome Valcke yn cael eu cyfweld yn ffurfiol yn ystod yr ymchwiliad.

Cafodd yr ymchwiliad ei gynnal ar ôl i adroddiad damniol gan archwilydd moeseg FIFA, Michael Garcia gael ei roi i’r twrnai cyffredinol.

Mae’r ymchwiliad yn parhau.