Bydd Abertawe’n teithio i Stamford Bridge i herio’r pencampwyr Chelsea ar ddiwrnod cyntaf eu pumed tymor yn yr Uwch Gynghrair ar Awst 8.

Byddan nhw’n herio Newcastle yn Stadiwm Liberty wythnos yn ddiweddarach ar Awst 15.

Ddiwedd mis Awst, byddan nhw’n croesawu Man U i’r Liberty.

Adeg y Nadolig, West Brom fydd yn dod i’r Liberty ar ddydd San Steffan, ac fe fydd gan yr Elyrch daith i Crystal Palace ddeuddydd yn ddiweddarach ac i Old Trafford ar Ionawr 2.

Bydd eu tymor yn gorffen adref yn y Liberty yn erbyn Man City.

Mae modd gweld y rhestr yn llawn yma.