Roedd  miloedd o bobol wedi ymgasglu yn nhref Porirua yn Seland Newydd neithiwr ar gyfer angladd cyn-flaenasgellwr y Gweilch, Jerry Collins.

Cafodd Collins a’i wraig, Alana Madill eu lladd pan darodd bws yn erbyn eu car ger ffordd brysur ger tref Beziers yn Ffrainc.

Mae eu merch fach dri mis oed, Ayla yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn Ffrainc.

Roedd nifer o fawrion y Crysau Duon, gan gynnwys Jonah Lomu, Dan Carter a Richie McCaw ymhlith 3,000 o alarwyr y tu fewn i Arena Te Rauparaha ar gyfer angladd Collins neithiwr.

Roedd miloedd yn rhagor wedi ymgasglu ar y strydoedd i dalu teyrnged i’r dyn oedd yn cael ei adnabod fel ‘JC’.

Teyrngedau

Yn ystod y gwasanaeth, dywedodd ei gefnder, y chwaraewr rygbi Tana Umaga fod “Jerry yn berson unigryw”.

“Ro’n i’n ddigon ffodus i fod yn perthyn iddo fe.

“Doedd e ddim yn cymysgu ei eiriau. Os oedd e’n eich hoffi chi, roeddech chi’n gwybod hynny. Os nad oedd e, roeddech chi’n gwybod hynny hefyd.”

Cynrychiolodd Collins yr Hurricanes yn Wellington tan 2008 cyn symud i Toulon yn Ffrainc ac yna i’r Gweilch.

Roedd wedi dychwelyd i Ffrainc i chwarae i Narbonne yn fwy diweddar.

Dechreuodd ei yrfa rygbi adref gyda Porirua ac yna i’w ysgol, Coleg San Padrig ac roedd disgyblion o’r ysgol honno wedi cymryd rhan yn y gwasanaeth angladdol.

Dywedodd cyfaill agos a rheolwr Collins, Tim Castle ei fod yn “ddyn direidus” ond ei fod yn gwrthod y syniad ei fod yn “ffigwr cwlt”.

“Roedd yn cael ei barchu a’i edmygu jyst am fod yn fe ei hun.”

Dywedodd capten presennol yr Hurricanes, Conrad Smith fod marwolaeth Collins yn “dangos bod mwy i fywyd na chwaraeon”.

“Yn y pythefnos o alar ry’n ni wedi’i brofi, ry’n ni’n sylweddoli’r effaith gafodd e ar y gêm. Yn ei ffordd unigryw ei hun, fe wnaeth y byd yn le gwell.”